-->

Croeso i wefan recriwtio a gyrfaoedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Ar 1 Hydref 2007, agorodd Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol â’r nod o wneud Prydain yn lle teg i bawb. Ymunwch â ni a byddwch chi’n rhan o sefydliad sydd nad yn unig yn hyrwyddo hawliau dynol ac yn ymdrechu i ddileu gwahaniaethu, ond sydd hefyd yn dathlu’r ffaith ein bod ni oll yn wahanol.

Diolch am ddatgan diddordeb mewn gweithio i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rhydd y wefan hon beth gwybodaeth i chi am y broses recriwtio a golwg ar beth mae fel i weithio i ni.

Gobeithiwn y bydd gennych ddiddordeb mewn gwneud cais a bod gennych yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen i wneud y cais ar y wefan hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau eraill a wnewch chi gysylltu â ni.

Bydd ceisiadau am swyddi gwag yn cau am hanner dydd ar y dyddiad cau. Gwaetha’r modd, ni allwn ystyried unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau.

Dewisiadau hygyrchedd

Dyluniwyd y wefan hon fel y gallwch newid maint y testun a’r cyfuniadau lliw ar dudalennau unigol, gan ganiatáu i chi ddarllen y cynnwys yn y ffordd rydych chi am ei ddarllen. Ewch i’n datganiad hygyrchedd am fwy o wybodaeth.

Swyddi gwag cyfredol

Nid oes swyddi gwag ar hyn o bryd. Dewch yn ôl i siecio eto os gwelwch yn dda.

Newidiwch y lliwiau:

Sylwer bod yn rhaid derbyn pob cais am swydd erbyn 12pm ar y dyddiad cau a ddatgenir.