-->

Beth mae fel i weithio i ni?

Fel sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus, sy’n wir werthfawrogi ei gyflogeion, rydym yn cynnig pecyn ardderchog o fuddion i staff. Mae’r rhain yn amrywio o weithio oriau hyblyg a gwyliau da iawn i dalebau gofal plant a dewis o gynlluniau pensiwn. Rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu ardderchog, rhaglen Cymorth Cyflogeion a hyd yn oed benthyciadau ar gyfer tocynnau tymor a beiciau hefyd.

Oriau gwaith

Mae cyflogeion amser-llawn y Comisiwn o dan gontract i weithio 36 awr yr wythnos. Rydym yn cynnig patrymau gweithio hyblyg lle bo modd er mwyn cynorthwyo’r rhai hynny sy’n dymuno gweithio’n rhan-amser neu rannu swydd ac rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrthynt. Rydym hefyd yn gweithredu cynllun oriau hyblyg sy’n eich caniatáu i amrywio’r amser rydych yn cychwyn a gorffen gwaith ac i fynnu’n ôl yr oriau rydych wedi’u cronni.

Gwyliau Blynyddol

Mae hawl gan bob cyflogai amser-llawn sy’n gweithio 5 diwrnod yr wythnos gael 30 diwrnod o wyliau’r flwyddyn ynghyd â gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus.

Cynllun pensiwn

Rydym yn gweithredu cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil ac rydym hefyd yn cynnig cynlluniau pensiwn cyfranddeiliaid. Gallwch gael mwy o fanylion ar y wefan : www.civilservice-pensions.gov.uk. Cewch mwy o fanylion pan fyddwch yn cychwyn gweithio i ni.

Dysgu a Datblygu

Rydym yn awyddus i bawb ddatblygu i’w potensial llawn yn eu swydd gyda’r Comisiwn ac mae gennym nifer cynhwysfawr o gyfleoedd dysgu a datblygu, gan gynnwys hyfforddiant gorfodol y byddwch yn ymgymryd ag ef yn ystod eich cyfnod prawf a pholisi a all gynnig cefnogaeth i chi astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol.

Rhaglen Cynorthwyo Cyflogeion

Mae’r Comisiwn yn cynnig mynediad at sefydliad cynghori annibynnol, proffesiynol i bob cyflogai a fydd yn eich helpu i ymdrin ag unrhyw broblemau yn llawn hyder.

Treuliau Adleoli

Mae’n bosibl y bydd ad-daliadau o dreuliau adleoli hyd at werth uchafswm o £8,000 ar gael i ymgeiswyr sy’n adleoli o Dde-Ddwyrain Lloegr, lle nad oes unrhyw ymgeiswyr addas eraill ac mae recriwtio ar gyfer llenwi’r swydd yn anodd.

Undebau

Mae’r Comisiwn yn cydnabod PCS ac Unite.

Benthyciadau ar gyfer Tocynnau Tymor

Os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd a dod o’r gwaith gyda’r Comisiwn mae hawl gennych wneud cais am fenthyciad di-log er mwyn prynu’ch tocyn tymor.

Benthyciadau ar gyfer Beic

O ran yr amgylchedd, rydym yn ystyried darparu benthyciadau di-log i gyflogeion sy’n dymuno prynu beic i fynd a dod o’r gwaith.

Talebau Gofal Plant

Gallwn ddarparu talebau gofal plant i helpu aelodau staff sy’n dymuno am yrfa ond sydd ganddynt ddyletswyddau gofal plant.

Tanysgrifiadau Proffesiynol

Os dynodir bod aelodaeth o gorff/sefydliad neu gymdeithas broffesiynol yn hanfodol yn y fanyleb unigolyn, bydd y Comisiwn yn talu’ch tanysgrifiad aelodaeth.

Mwy am y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Newidiwch y lliwiau:

Sylwer bod yn rhaid derbyn pob cais am swydd erbyn 12pm ar y dyddiad cau a ddatgenir.