Y broses recriwtio
I wneud cais am unrhyw swydd ar y wefan hon, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r canlynol:
Disgrifiad Swydd
Mae hwn yn rhoi crynodeb sylfaenol a manylion y swydd i chi. Darllenwch drwyddo yn ofalus gan nodi unrhyw ddyletswyddau rydych wedi’u gwneud o’r blaen – bydd hyn yn eich helpu i lenwi’r datganiad ar y ffurflen gais sy’n dweud wrthym pam rydych wedi gwneud cais am y swydd.
Manyleb Person
Rhestr o sgiliau y mae’n rhaid i chi ddangos eich bod yn meddu arnynt. Byddwn yn defnyddio’r meini prawf ar y fanyleb person i lunio rhestr fer ar gyfer y swydd. Mae’n rhaid i chi nodi’n glir ar y ffurflen gais sut rydych yn bodloni’r meini prawf.
Manylion Dyddiadau Cynnal Cyfweliad
Lle bynnag y bo modd, rydym wedi cynnwys manylion dyddiadau y byddwn yn cynnal cyfweliadau. Byddwn hefyd yn ceisio rhoi manylion am unrhyw ymarferion neu brofion y byddwn yn gofyn i chi eu gwneud yn ystod y cyfweliad. (Caiff manylion penodol am y rhain eu cadarnhau yn y llythyr sy’n gwahodd ymgeiswyr i gael cyfweliad.)
Y broses gwneud cais am swydd
Mae’n bosibl gwneud cais ar-lein, all-lwytho neu bostio’ch cais atom.
Rhaid llenwi’r ffurflen gais ar gyfer pob cais am swydd. Gwaetha’r modd, ni allwn ystyried unrhyw CV a dderbynnir.
Datgysylltir eich gwybodaeth bersonol o’r ffurflen cyn llunio rhestr fer. Gall y panel ystyried eich cais ar sail gofynion y swydd ac nid ar sail unrhyw beth y gellir ei ystyried yn wahaniaethol.
Ffurflen Cyfweliad wedi’i Warantu
Rydym yn cynnig y dewis i ymgeiswyr anabl fod eu cais yn cael ei ystyried yn unol â thelerau ein cynllun cyfweliad wedi’i warantu. Bydd yn rhaid i chi barhau i ddangos ar eich ffurflen gais fod gennych y sgiliau gofynnol a nodir yn y fanyleb person cyn y gallwn eich cyfweld.
Ni roddir y ffurflen hon i’r panel sy’n llunio’r rhestr fer ond fe’i cedwir gan y tîm recriwtio nes bod rhestr yr ymgeiswyr a wahoddir am gyfweliad wedi’u llunio. Nid yw cais o dan y Cynllun Cyfweliad wedi’i Warantu yn golygu y gwarentir y swydd i chi. Cynigir y swydd i’r ymgeisydd gorau ar adeg cynnal cyfweliadau.
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb
Bydd y ffurflen yn helpu’r Comisiwn i nodi’r bobl sy’n gwneud cais am bob swydd fel y gallwn weld tueddiadau ac adolygu ein prosesau recriwtio. Mae’r ffurflen fonitro yn un wirfoddol ond mae’r wybodaeth a geir ynddi yn ddefnyddiol iawn gan ei bod yn ein galluogi i fonitro effeithiolrwydd ein polisi cyfle cyfatal mewn cyflogaeth.
Datgysylltir y ffurflen fonitro o’r ffurflen gais pan fyddwn yn ei derbyn ac nid yw’n rhan o’r broses llunio rhestr fer o gwbl.