Beth mae fel i weithio i ni?
Y ffordd orau o ddeall beth mae fel i weithio i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw gofyn i’r bobl sy’n gweithio gyda ni eisoes. I arbed amser i chi, rydym wedi cyfweld â thri o’n cyflogeion.
Debbie Wood, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Comisiynwyr, Llundain
Mae Debbie yn disgrifio ei hun fel y cyswllt rhwng y Comisiynwyr, y tîm uwch reolwyr a rhannau eraill y Comisiwn. Ei gwaith hi yw sicrhau bod y Comisiynwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r CCHD a bod eu gwaith ar gyfer y Comisiwn yn mynd yn ei flaen yn ddidrafferth.
Daeth atom ni ar ôl gweithio gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol fel Cyfarwyddwr Rhaglenni Corfforedig yn gyfrifol am Swyddfa’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr, a rhaglenni newid a rheoli prosiectau.
Yn ddiweddar, treuliodd Debbie amser ar secondiad gyda Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn gweithio ar strategaeth ymgysylltu cymdeithas gyda’r Prif Weithredwr, Matthew Taylor. Mae Debbie yn byw yn Winchester ac mae ganddi ferch tair oed.
Beth yw’r peth gorau am weithio i’r Comisiwn newydd?
Dysgu mwy am yr agenda cydraddoldeb a hawliau dynol a gweithio gyda sefydliad newydd, proffil uchel er mwyn cyflawni ei nodau ac amcanion.
Beth yw’r agwedd fwyaf anodd o’ch rôl?
Deall sut mae’r lle’n gweithio, pwy yw pwy a sut wyf yn mynd ati i gyflawni fy ngwaith. Dw i’n siwr y gall eraill ddeall hynny hefyd....! Ond os gweithiwn gyda’n gilydd i ddatrys y problemau sydd gennym – dw i’n siwr y byddwn yn cyrraedd ein nod yn y pen draw.
A oes unrhyw beth wedi’ch helpu i weithio’n fwy effeithiol
Ewch i siarad â phobl wyneb yn wyneb – neu ffoniwch i gael sgwrs yn lle anfon neges e-bost. Unwaith i chi sefydlu’r berthynas honno, mae bob amser yn haws y tro nesaf i annog pobl i wneud rhywbeth i’ch helpu!
Beth oedd eich hoff lyfr yn blentyn, a ydych yn ei ddarllen i’ch merch chi?
Yn ferch ifanc, roeddwn wrth fy modd â holl lyfrau Enid Blyton - Famous Five, Secret Seven a storïau ysgol. Bydd esgus gen i nawr i ddarllen y rhain i Olivia. Wedi dweud hynny, mae hi’n hoffi pob dim yn ymwneud â Disney – Cinderella yw ei hoff stori ar hyn o bryd.
Pwy sy’n eich edmygu fwyaf?
Dw i ddim am gyfaddef hynny i chi! Pe byddech yn gofyn pwy dw i’n eu hedmygu, byddai’n unrhyw un sydd wedi dal ati a herio eu hunain i gyflawni eu nodau. Mae Ellen MacArthur yn un o’r bobl hynny.
Beth yw’r cyngor gorau y mae rhywun wedi ei roi i chi erioed?
I drin pobl fel y byddech am iddyn nhw eich trin chi. Dw i’n gobeithio fy mod yn gwneud hynny yn y gwaith a gartref.
Beth yw llwyddiant mwyaf dynolryw?
Dyfeisio’r blackberry. Dw i ddim yn gallu byw hebddo. Trist iawn!
Pa beth moethus fyddech chi’n mynd ag ef gyda chi i ynys anghyfannedd?
Ar wahân i’m Blackberry… cyflenwad enfawr o nwyddau Moulton Brown (awgrym amlwg fan ‘na i unrhyw un sy’n ystyried prynu anrheg Nadolig neu ben-blwydd i mi!) neu radio er mwyn i mi allu dal i fyny â rhaglen omnibws The Archers ar ddydd Sul.
Pe na byddech yn y gwaith heddiw, beth fyddech yn ei wneud?
Buaswn yn ceisio trefnu fy mywyd yn well – mae gweithio amser llawn, cymudo a bod yn fam i blentyn tair oed yn golygu nad wyf yn cael llawer o amser i wneud y pethau diflas arferol hynny y mae angen eu gwneud bob amser yn anffodus.
Diolch Debbie!
Qaiser Razzak, Rheolwr Rhanbarthol, Rhanbarthau Lloegr, Bryste
Cyn dod i weithio i’r CCHD, arferai Qaiser weithio yn y sector cyfreithiol. Ei arbenigedd yw eiddo deallusol.
Beth yw’r peth gorau am weithio i’r Comisiwn newydd?
Y bobl, y brwdfrydedd a’r awyrgylch y mae hynny’n ei greu.
Beth yw agwedd fwyaf anodd eich rôl?
Teithio. Rhanbarth de-orllewin Lloegr yw rhanbarth daearyddol mwyaf Lloegr a’r un mwyaf gwledig, felly ar rai diwrnodau rydych yn teithio 6 i 7 awr.
Beth sy’n helpu i chi weithio’n fwy effeithiol
Jaffa Cakes.
Pa brosiectau diddorol sydd ar waith ym Mryste?
Mae cryn dipyn o brosiectau – ond yr agwedd fwyaf diddorol ar ein gwaith yw ennyn diddordeb rhan-ddeiliaid, mae’n rhan gyffrous a phwysig o’n gwaith.
Pa mor aml ydych chi’n cyfarfod ag eraill yn y Comisiwn?
Fel arfer pan dw i yn Llundain sy’n dod yn rhywbeth rheolaidd er dw i wedi bod i Fanceinion sawl gwaith hefyd.
A oes gennych chi unrhyw arferion annymunol?
Gallwn fod yn rhywun nosol yn rhwydd.
Beth neu bwy na allech fyw hebddynt?
Teulu a ffrindiau.
Pryd oeddech chi ar eich hapusach?
Pum munud yn ôl pan orffennais fwyta’r Jaffa Cake olaf.
Beth sydd ar eich iPod?
Unrhyw beth y gallaf nodio fy mhen iddo ac, ar hyn o bryd, dw i’n gwrando ar Coldplay.
Diolch Qaiser!
Amarjit Saini, Arweinydd Tîm, Birmingham
Cyn dod i weithio i’r CCHD, arferai Amarjit weithio i’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol lle sefydlodd linell gymorth y CCH yn dilyn Adolygiad Hudson.
Cyn ymuno â’r CCH, roedd Amarjit yn gweithio fel Rheolwr Canolfan Gyswllt i Vodafone. Aeth Vodafone trwy raglen ailstrwythuro fawr yn 2006 ac mae Amarjit yn credu iddi fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn pan gafodd swydd gyda’r CCH.
Ym mis Medi 2007 ymunodd â’i mab a dysgu karate. Mae’n rhywbeth y mae hi’n ei fwynhau ac mae ei Sensei am iddi roi cynnig ar ei gwregys gyntaf. Yr unig broblem yw nad yw hi wedi gofyn i’w mab – sydd wedi siomi braidd! Croeso i chi gynnig cyngor neu awgrymiadau iddi ar sut i ddelio â hyn!
Beth yw’r peth gorau am weithio i’r Comisiwn newydd?
Yr her o ddod ag etifeddiaeth y comisiynau blaenorol at ei gilydd a’r cyfrifoldebau newydd mewn rôl rhoi cyngor.
Beth yw agwedd fwyaf anodd eich rôl?
Gwerthu potensial y llinell gymorth i’r Comisiwn ehangach.
Beth sydd wedi’ch helpu i weithio’n fwy effeithiol?
Yn syml – defnyddiwch restr “i’w wneud”! Yna gallwch deimlo’n fodlon iawn wrth roi tic ger rhywbeth rydych newydd ei gyflawni.
A ydych yn credu bod y Comisiwn wedi datblygu cryn dipyn ers 1 Hydref?
Dw i’n credu ein bod wedi gwneud peth cynnydd ond mae gennym gryn dipyn i’w wneud eto.
Sut byddai’ch ffrindiau yn eich disgrifio?
Teg, gonest ac mae’n anodd newid fy meddwl sy’n golygu fy mod yn ystyfnig iawn.
Pa gymorth fyddech yn ei roi i’r genhedlaeth nesaf?
Anelwch at y nefoedd, byddwch yn wir i chi’ch hun a chofiwch pwy ydych chi.
Pe baech yn aderyn neu’n anifail, beth fyddech?
Dw i ddim yn gallu meddwl am un anifail penodol felly byddai’n rhaid iddo fod yn gymysgedd o jiraff am ei goesau hir a cheffyl am ei gyflymdra, cryfder, natur ddibynadwy a ffyddlondeb.
Pwy neu beth fyddai arnoch eisiau iddynt fod yn aros amdanoch chi gartref ar ddiwedd y dydd?
Hoffwn gerdded i mewn i’m cartref ar ddiwedd y dydd a gweld bod y plant wedi cael eu swper, eu gwaith cartref wedi ei wneud, eu bagiau wedi eu paratoi ar gyfer y diwrnod wedyn, eu bod wedi cael cawod ac yn barod i fynd i’r gwely; a’r unig beth fyddai ar ôl i mi ei wneud fyddai darllen stori iddynt, dymuno nos da iddynt a chael ychydig o lonydd.... am freuddwyd!
Diolch Amarjit!