-->

Datganiad hygyrchedd

Mae ein gwefan yn hawdd i’w defnyddio, hawdd i’w chanfod a hawdd i’w chyrraedd. Mae’r dudalen hon yn egluro’r nodweddion hygyrchedd sydd ar gael yn fanylach.

Bysellau cyrchu

Mae bysellau cyrchu yn golygu y gallwch chi ddefnyddio’r wefan heb ddefnyddio’ch llygoden.

  • N – Osgoi’r Gwe-lywio
  • 0 – Hafan
  • 1 – Swyddi gwag
  • 2 – Amdanom ni
  • 3 – Gweithio i ni
  • 4 – Amdanoch chi
  • 5 – Cysylltu â ni
  • 6 – Mynd i brif wefan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • 7 – Map o’r wefan
  • 8 – Datganiad a gwybodaeth am hygyrchedd

I ddefnyddio Bysellau Cyrchu yn Internet Explorer ar gyfrifiadur personol

Pwyswch y fysell ALT a’i dal i lawr, pwyswch rif y fysell gyrchu, rhyddhewch y bysellau ac yna pwyso ENTER

I ddefnyddio Bysellau Cyrchu yn Firefox ar gyfrifiadur personol

Pwyswch fysellau ALT a SHIFT a’u dal i lawr, pwyswch rif y fysell gyrchu, rhyddhewch y bysellau ac yna pwyso ENTER

Opsiynau lliw a chyferbynnedd

Mae’n bosibl newid gosodiadau lliw'r wefan hon. Gallwch newid y lliwiau i un ai:

Newid maint y testun

Mae’n bosibl gwneud y testun yn fwy neu’n llai ar y wefan hon fel y mynnwch – o fewn rheswm! Dyma sut:

Newid maint y testun ar Internet Explorer

Dechreuwch drwy glicio ar ‘View’ yn y bar offer ar frig y sgrin. Yna cliciwch ar ‘Text Size’ (neu ‘Fonts’) am ddewis o wahanol feintiau. Yna cliciwch ar ‘Largest’ i wneud y testun yn llawer mwy ac mae’n bosibl gwneud hyn ar y rhan fwyaf o dudalennau gwe. Efallai bod yna fotwm yn y bar offer i wneud hyn.

Wedi i chi glicio ar 'Largest', bydd y testun ar y dudalen yn aros yr un fath nes i chi ei newid eto.

Os oes gennych chi lygoden ag olwyn, mae yna ffordd hawsach fyth o newid maint y testun. Yn Internet Explorer, pwyswch y fysell Ctrl a’i dal i lawr a symud olwyn y llygoden i fyny i wneud y testun yn fwy, neu i lawr i’w wneud yn llai.

Newid maint y testun ar Firefox

Dechreuwch drwy glicio ar ‘View’ yn y bar offer ar frig y sgrin. Yna cliciwch ar ‘Text Size’ i ddatgelu dau opsiwn arall: ‘increase’ a ‘decrease’. Bydd dewis yr opsiwn 'increase' yn gwneud y testun yn fwy a bydd dewis 'decrease' yn gwneud y testun yn llai.

Os oes gennych chi lygoden ag olwyn, mae yna ffordd hawsach fyth o newid maint y testun. Yn Firefox, pwyswch y fysell Ctrl a’i dal i lawr a symud olwyn y llygoden i fyny i wneud y testun yn fwy, neu i lawr i’w wneud yn llai.

Newidiwch y lliwiau:

Sylwer bod yn rhaid derbyn pob cais am swydd erbyn 12pm ar y dyddiad cau a ddatgenir.