Am y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Ar y cyntaf o Hydref 2007, cymerodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol rôl a swyddogaethau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE), y Comisiwn Hawliau Anabledd (DRC) a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal (EOC), ynghyd â chyfrifoldebau newydd am gyfeiriadedd rhywiol, oedran, crefydd a chred, a hawliau dynol.
Ymunodd llawer o bobl â fu gynt yn gweithio yn y comisiynau cydraddoldeb blaenorol, â ni yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd, gan greu sefydliad sydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth am hil, rhyw ac anabledd, cydraddoldeb a gwahaniaethu.
Rydym wedi cyflogi arbenigwyr cyfeiriadedd rhywiol, oedran, crefydd a chred, a hawliau dynol hefyd fel ein bod yn cynnwys pob agwedd ar ein cylch o gyfrifoldebau.